Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol

 

Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2023 drwy Microsoft Teams

 

1.         Yn bresennol

 

Vikki Howells AS (Cadeirydd)

Lisa Nandy AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

David Rees AS

Luke Fletcher AS

Jenny Rathbone AS

 

Colin Beattie ASA (Cynullydd, GTB Senedd yr Alban)

Richard Leonard ASA

Ian McCrory, Cyngor Fife

 

Yr Athro Steve Fothergill, Ysgrifenyddiaeth Genedlaethol yr ICA

Chris Whitwood, Ysgrifenyddiaeth yr ICA

Paul Beel, Ysgrifenyddiaeth yr ICA

Peter Slater, ICA Cymru

Meirion Thomas, ICA Cymru

Roddy MacDonald, ICA Yr Alban

 

Y Cynghorydd Gareth Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Y Cynghorydd Tyssul Evans, Cyngor Sir Gaerfyrddin

Y Cynghorydd Neelo Farr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Y Cynghorydd Tim Bowen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Y Cynghorydd Michelle Symonds, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Y Cynghorydd Danny Grehan, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd Ryland Doyle, Cyngor Dinas Abertawe

 

Nicola Pearce, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Paul Hudson, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Rob Wellington, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

 

Robin Lewis, Swyddfa Vikki Howells AS

Alexander Still, Swyddfa Hefin David AS

Ioan Bellin, Swyddfa Rhys ab Owen AS

 

Yr Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd

Gwion Rhisiart, Plaid Ifanc

Elena Haf, Gwestai

Dr Elizabeth Haywood, Gwestai

Thomas Owen

Claire Williams

 

 

 

1.    Croeso

 

Croesawodd Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, Vikki Howells AS, y rhai a oedd yn bresennol yn y GTB ac estynnodd groeso arbennig i Colin Beattie, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol yn Senedd yr Alban a'i gydweithwyr.

 

2.    Ymddiheuriadau

 

Ni adroddwyd yr un ohonynt

 

3.    Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022

 

Cymeradwywyd heb welliant

 

4.    Diweddariad ar Aelodaeth Grŵp

 

Etholwyd Meirion Thomas, oedd newydd ei benodi'n Gyfarwyddwr Cymru i’r ICA yn aelod o'r grŵp.

 

5.    Ethol Ysgrifennydd

 

Mynegodd y cyfarfod ei ddiolch i'r ysgrifennydd ymadawol Peter Slater am ei ymroddiad i'r grŵp a dymunwyd yn dda iddo. 

 

Penodwyd Meirion Thomas yn ysgrifennydd newydd a chafodd groeso i'r rôl gan y Cadeirydd.

 

6.    Ffyniant Bro

 

i)             Symleiddio'r Gronfa Ffyniant Bro: yr Athro Steve Fothergill, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cynghrair y Cymunedau Diwydiannol

 

Cyflwynodd yr Athro Fothergill ddiweddariad ar fwriad Llywodraeth y DU i symleiddio cyllid ffyniant bro, fel y crybwyllwyd yn wreiddiol yn y Papur Gwyn ar ffyniant bro. Cyflwynodd bapur ar y Chwe Egwyddor o Symleiddio Cyllid Ffyniant Bro, a gytunwyd gan awdurdodau sy'n aelodau'r Gynghrair yng Nghymru.

 

Dywedodd yr Athro Fothergill fod Llywodraeth y DU wedi mynegi bwriad i gyhoeddi pensaernïaeth sylfaenol y cynlluniau symleiddio yng ngwanwyn 2023, gyda’r dyraniadau terfynol yn cael eu cyhoeddi fel rhan o adolygiad o wariant y DU yn 2024. Felly, mae cyfle o hyd i siapio sut y gall y symleiddio ddigwydd.

 

Esboniodd fod y GTB cyfatebol yn yr Alban wedi trafod y papur ar y Chwe Egwyddor o Symleiddio yn yr un modd, ac, ar y sail honno, fe benderfynon nhw gyflwyno sylwadau i Lywodraeth yr Alban.

 

Nododd yr Athro Fothergill fod Cymru mewn perygl o golli allan pe bai symleiddio ond yn dilyn symiau canlyniadol Barnett, oherwydd o ran  cronfeydd megis cronfa ffyniant gyffredin y DU, roedd Cymru’n cael cryn dipyn mwy y pen na'r Alban a rhanbarthau yn Lloegr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Athro Fothergill am ei gyfraniad gan wahodd cwestiynau a sylwadau.

 

Dywedodd yr Athro Kevin Morgan fod y chwe egwyddor yn briodol yn ei farn ef, ac, ymhellach, mai dull Trysorlys y DU fu peidio â chaniatáu rhaglenni ariannu i fod yn ddigon hir dymor nac yn amlflwydd eu natur. Mae hyn, yn ei farn ef, yn rhwystro datblygiad economaidd rhanbarthol ac yn hytrach yn hyrwyddo meddylfryd tymor byr. Ymhellach, mae'r dull presennol o gyllido ffyniant bro, i bob pwrpas, yn tanseilio’r setliad datganoli i Gymru ac yn anwybyddu'r profiad o weithio ar y cyd i gefnogi buddsoddiadau strategol.

 

Wrth ymateb cadarnhaodd yr Athro Fothergill fod y pwyntiau hyn wedi codi yng nghyd-destun yr Alban hefyd, a’i bod hi’n debygol mai’r pynciau trafod hyn fyddai’n debygol o greu’r gynnen fwyaf wrth symud ymlaen.

 

Nododd yr Athro Fothergill hefyd, er bod Cymru wedi gwneud yn dda yn ail rownd y cronfeydd ffyniant bro a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o’i gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU, nid oedd y broses o ddyrannu arian wedi cael ei gweithredu’n dda o safbwynt awdurdodau lleol. Er enghraifft, nid oedd yr  oedi yn y broses o wneud penderfyniadau wedi cael ei gyfathrebu'n dda, gan arwain at wariant ar brosiectau ar raddfa fawr yn gyfyngedig o ran amser.   

 

Ar ben hynny, nododd yr Athro Fothergill fod penderfyniadau ynghylch cymhwysedd rhai prosiectau awdurdodau lleol yn cael eu gwneud yn fympwyol gan Weinidogion yn ddi-rybudd. Mae hyn wedi arwain at ymdrech a buddsoddiad gwastraffus sylweddol wrth lunio ceisiadau gan awdurdodau lleol ar draws y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Ategwyd y dadansoddiad hwn gan y Cynghorydd Anthony Hunt (CBS Torfaen) a ddywedodd fod profiad llawer o awdurdodau lleol wedi arwain at wastraffu adnoddau ariannol prin.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gareth Jones (CBS Rhondda Cynon Taf), cadarnhaodd yr Athro Fothergill nad oedd llawer o rybudd neu unrhyw rybudd o gwbl wedi’u rhoi i awdurdodau lleol ynghylch newidiadau yn yr amserlenni gwneud penderfyniadau neu newidiadau o ran cymhwysedd prosiectau a bod Gweinidogion wedi gwneud penderfyniadau mympwyol.

 

Cytunwyd, ar sail yr wybodaeth a'r dadansoddiad a roddodd yr Athro Fothergill a sylwadau aelodau’r GTB, y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Weinidogion Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn glir yr angen i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar frys ynglŷn â'i chynlluniau ar gyfer cyllid ffyniant bro yn y dyfodol.  

 

 

ii)            Safbwynt y Blaid Lafur ar Ffyniant Bro: Lisa Nandy AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

 

Croesawodd y Cadeirydd Lisa Nandy, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i'r cyfarfod, a gofynnodd iddi egluro i’r GTB bersbectif y Blaid Lafur ar ffyniant bro a beth allai hynny ei olygu i wahanol rannau o'r DU gan gynnwys, yn arbennig, Cymru.

 

Dechreuodd Lisa drwy gydnabod bod angen datrys problem sylfaenol sef, am yr 20 mlynedd diwethaf, mai Llundain a de ddwyrain Lloegr fu prif ganolbwynt y llywodraeth ganolog o ran buddsoddiadau cyhoeddus ar raddfa fawr. Mae hyn yn golygu bod y buddsoddiad hwnnw wedi canolbwyntio'n ormodol ar dde ddwyrain Lloegr a Llundain, ac mewn rhannau o'r wlad sydd y tu allan i'r ardaloedd ffafriol hyn, bod swyddi da â chyflogau da wedi mynd, pobl fedrus wedi gadael, a bywiogrwydd economaidd wedi mynd diflannu o gymunedau ledled y DU.

 

Ym marn y Blaid Lafur, nid yw delio â'r broblem hon yn syml drwy ailddosbarthu adnoddau yn mynd i fod yn ddigon wrth i ni symud ymlaen. Yn hytrach, mae angen buddsoddiad i oresgyn y rhaniadau cymdeithasol sydd wedi datblygu o ganlyniad i’r buddsoddiad anghytbwys ledled y DU ac sydd wedi bod ar draul cenhedloedd a rhanbarthau'r DU y tu hwnt i'r de ddwyrain.  

 

Yn Adroddiad Brown, a gomisiynwyd gan y Blaid Lafur[1], amlinellodd  Gordon Brown yr achos dros lywodraeth yn y dyfodol yn cymryd camau diffiniol a phendant i symud buddsoddiad y tu hwnt i Lundain a'r de ddwyrain.

 

Esboniodd Lisa fod y Blaid Lafur yn cydnabod yr angen am hyn, ac ymhellach y bydd angen dull penodol o ran lle a dull penodol o ran asedau sy'n caniatáu i gynlluniau hirdymor ar gyfer twf gael eu darparu'n lleol. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen rhoi diwedd ar ymgeisio cystadleuol anghynhyrchiol am adnoddau prin, ac, yn hytrach, buddsoddi ar sail trefniadau ariannu tymor hir a strategaethau cysylltiedig, sy'n caniatáu i gynlluniau buddsoddi sydd wedi cael eu cyfuno a’u symleiddio gael eu gweithredu ar draws gwahanol sectorau a lleoedd ledled y DU.

 

Gyda'i setliad datganoli, mae Lisa yn credu bod modd cyflawni llawer o hyn yn yr Alban drwy ychwanegiadau i’r fformiwla Barnett. Yng Nghymru, fodd bynnag, mae’r setliad datganoli ac effaith sylweddol colli cyllid yr UE yn golygu bod angen integreiddio ffrydiau ariannu newydd.

 

Yng Nghymru a'r Alban, dywedodd Lisa y caiff trefniadau datganoli eu parchu gan Lywodraeth Lafur yn y dyfodol a chaiff trefniadau eu gwneud i gefnogi datblygiad lleol a rhanbarthol da ac ariannu cynlluniau twf sy’n cael eu gyrru a’u cyflawni’n lleol. Yr her, fel y nodir gan Lisa, yw bod twf yn digwydd ym mhob man ledled y wlad gyda’r angen am berthnasau parchus ar bob lefel o lywodraeth ac ar draws holl feysydd yr economi a chymdeithas.

 

Un canolbwynt allweddol i lywodraeth Lafur yn y dyfodol felly fydd ymgorffori cyflawni yn ei chynlluniau ar gyfer dyfodol y DU, nid dim ond llunio rhestrau o ddymuniadau sydd heb eu diffinio ac heb nodi unrhyw fecanweithiau cyflenwi.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i Lisa am ei chyfraniad a’i chyflwyniad gan wahodd sylwadau gan aelodau’r GTB. Eglurodd hefyd y byddai angen iddi hi ac Aelodau eraill o'r Senedd oedd yn bresennol adael y cyfarfod yn fuan er mwyn mynd i Gwestiynau’r Prif Weinidog yn Siambr y Senedd.

 

Bu'n rhaid i Jenny Rathbone AS adael y cyfarfod, ond fe adawodd gwestiwn i Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid, sef a fyddai Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn datganoli incwm Ystadau'r Goron yng Nghymru er budd pobl Cymru fel sydd wedi cael ei wneud yn yr Alban.

 

Ymatebodd Lisa drwy ddweud na allai'r Blaid Lafur ymrwymo i'r cam hwnnw am y tro oherwydd ei bod wedi comisiynu adroddiad ar sut y gellir defnyddio asedau cyhoeddus orau er lles cymunedau ar draws y DU, gan gynnwys yn y gwledydd datganoledig. 

 

Gofynnodd Colin Beattie ASA (Cynullydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd yr Alban ar Gymunedau Diwydiannol) i Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid sut y byddai llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn delio â Llywodraeth yr Alban wrth ddyrannu cyllid ffyniant bro.

 

Ymatebodd Lisa drwy ddweud ei bod wedi datgan yn gyhoeddus, fel Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros ffyniant bro, ei bod hi eisiau i Michael Gove, Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol, lwyddo yn ymgais y llywodraeth i godi gwastad economi’r DU. Roedd hwn yn uchelgais rhy bwysig i beidio â llwyddo. Fodd bynnag, mae wedi bod yn rhwystredig iawn iddi hi fod yr ymrwymiad polisi hwn wedi bod yn araf i'w wireddu mewn termau real. Fodd bynnag, mae hi wedi ymrwymo y bydd Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn dangos ymrwymiad hirdymor i godi’r gwastad ac yn dod â phob plaid a sector at ei gilydd i wneud iddo lwyddo. Hyd yn oed yn yr Alban, heb amharchu trefniadau Llywodraeth yr Alban, roedd ffordd y gallai model maerol datganoledig, fel y nodwyd yn Adroddiad y Comisiwn Brown, weithio i adeiladu partneriaethau cyflenwi effeithiol.

 

Wrth ymateb, pwysleisiodd yr Athro Kevin Morgan fod datganoli a datblygu ar ddwy ochr yr un geiniog, a lle mae diffyg democrataidd yn y prosesau ar gyfer rhaglenni ariannu, er enghraifft, y cronfeydd ffyniant cyffredin, byddai diffyg effeithlonrwydd hefyd, fel y cyfeiriwyd ato yng nghyflwyniad cynharach yr Athro Fothergill. 

 

Wrth ymateb, trodd Lisa at y sefyllfa yng Nghymru yn benodol, gan bwysleisio bod y Blaid Lafur wedi edrych ar y profiad cadarnhaol o sefydlu cyrff a mecanweithiau, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a gynlluniwyd i gyflawni ar raddfa fawr. Mae'r Blaid Lafur yn cydnabod bod y mecanweithiau hyn yn gwneud y gwaith datblygu yng Nghymru eisoes a bod unrhyw dynnu arian yn ôl i ganol llywodraeth y DU nid yn unig yn dangos diffyg parch at ddatganoli, ond, yn fwy sylfaenol, yn tynnu pŵer yn ôl i'r canol.

 

Gofynnodd y cynghorydd Gareth Jones, o gyngor Rhondda Cynon Taf, a oedd gan forglawdd Bae Abertawe, a gafodd sêl bendith y Prif Weinidog, Theresa May, dan weinyddiaeth Geidwadol flaenorol, ond yna ei wrthod gan San Steffan, gefnogaeth y Blaid Lafur erbyn hyn.

 

Cadarnhaodd Lisa ei bod hi, yn ei rolau gweinidogol cysgodol blaenorol, yn ymwybodol iawn fod morglawdd Bae Abertawe ar yr agenda wleidyddol yn 2016. Roedd y Blaid Lafur wedi ei gefnogi'n gryf bryd hynny, a’i fod, mewn egwyddor, yn dal i wneud. Gydag ymrwymiad i ynni glân, yr amgylchedd a ffyniant bro uno gyda'i gilydd, bydd Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn cyflwyno Cynllun Ffyniant Gwyrdd i hyrwyddo cyfleoedd strategol o'r fath.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, diolchodd Meirion Thomas, yr ysgrifennydd i'r Grŵp Trawsbleidiol, i Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid am ei phresenoldeb, ei chyfraniad i’r cyfarfod a’i hymatebion adeiladol ac agored i sylwadau a chwestiynau’r grŵp.  

 

7.    Pynciau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol a'r camau nesaf

 

Nododd Meirion Thomas bod nifer o gamau y gellid eu cymryd i fwrw ymlaen â'r agenda ar gyfer cyllid ffyniant bro yng Nghymru yn unol â gweithredoedd mewn mannau eraill.

 

Fe wnaeth yr Athro Steve Fothergill annog y grŵp i gyflwyno sylwadau clir i Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru ynglŷn â'r egwyddorion symleiddio.

 



[1] Prydain Newydd: Adnewyddu ein Democratiaeth ac Ailadeiladu ein Heconomi. Adroddiad y Comisiwn ar Ddyfodol y DU, y Blaid Lafur 2022.